Cynllunydd Tactegol
Yn Hafren Dyfrdwy, rydym yn angerddol am ddarparu dŵr glân a diogel a gofalu am yr amgylchedd ledled Cymru. Rydym yn fwy na chwmni dŵr – rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, arloesi a chefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os ydych yn chwilio am rôl lle gallwch gael effaith wirioneddol a bod yn rhan o sefydliad sy’n cael ei yrru gan bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHYCH
Mae gennym gyfle gwych i 3 Chynllunydd Tactegol ymuno â’n Tîm Cynllunio ac Amserlennu Seilwaith Anweledig, gan gefnogi ein timau gweithredol Trin Dŵr a Dŵr Gwastraff.
Eich prif ffocws fydd cynllunio a chydlynu gwaith ar gyfer ein timau gweithredol, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu trefnu’n effeithiol a bod gwaith â blaenoriaeth yn cael ei gwblhau. Byddwch yn rheoli amserlenni gwaith dyddiol ac at y dyfodol, yn cydlynu pryniannau ac yn monitro larymau ar draws yr ardal leol, gan drefnu presenoldeb gweithredol lle bo angen.
Byddwch hefyd yn rheoli newidiadau a gofynion adweithiol drwy gydol y dydd, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr gweithredol a Rheoli’r Rhwydwaith. Gan ddefnyddio SAP, Salesforce a Power BI, byddwch yn helpu i gadw gwaith yn drefnus, cynnal gwybodaeth gywir am dasgau a darparu mewnwelediad i berfformiad.
Byddwch yn gweithio 38 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau 07:30–15:45 a dydd Gwener 07:30–15:00.
YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO
Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, agwedd gadarnhaol ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau’n well. Rydym yn chwilio am bobl sy’n cymryd rhan, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, ac sy’n gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod yn malio.
Ar gyfer y rôl hon, mae sgiliau pobl a threfnu yn hanfodol. Bydd angen i chi gydlynu’n hyderus â gwahanol dimau, rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd ac aros yn ddigynnwrf pan fydd cynlluniau’n newid.
Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- Trwydded yrru ddilys yn y DU - bydd angen teithio ar draws ein safleoedd gweithredol
- Sgiliau trefnu a blaenoriaethu cryf
- Sgiliau pobl a chyfathrebu gwych
- Agwedd gadarnhaol ac ymarferol at ddatrys problemau
- Y gallu i weithio’n gyflym ac addasu i flaenoriaethau gweithredol sy’n newid
SUT Y BYDDWN YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH YN GYFNEWID
Nid swydd yn unig mohoni; mae’n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy’n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau i’ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch yn cyfrannu at yr amgylchedd a’r gymuned.
- Cyflog: £30,000 - £33,000
- 23 diwrnod o wyliau, gyda’r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod
- Bonws blynyddol o hyd at £1,500
- Cynllun pensiwn blaenllaw, gyda chyfraniad o 8% gan y cwmni pan fyddwch yn cyfrannu 4%
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys blwyddyn o absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu â thâl
- Cynllun Sharesave
- Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol drwy ein Hacademi
- Cynllun cerbydau trydan a dau ddiwrnod gwirfoddoli â thâl y flwyddyn
AWN ATI
Allwn ni ddim aros i glywed gennych! Sicrhewch fod gennych CV wedi’i ddiweddaru yn barod a phum munud i wneud cais.