Cysylltydd Cymunedol Cymraeg
GADEWCH I NI FYND ATI'N SYTH
Helo! Rydyn ni yn Hafren Dyfrdwy, un o'r 11 cwmni dŵr a dŵr gwastraff rheoleiddiedig yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gwasanaethu dros 100,000 o gartrefi a busnesau ledled canolbarth a cogledd Cymru, ac mae ein ffocws parhaus ar gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid, nawr ac am genedlaethau i ddod.
Gan gyflogi dros 200 o bobl, rydym yn gwmni lleol wedi'i leoli yng nghanolbarth a gogledd Cymru sy'n darparu dŵr glân bob tro y mae ein cwsmeriaid yn troi'r tap ymlaen i'w ddychwelyd i afonydd hyd yn oed yn lanach nag yr oeddem wedi'i gymryd, rydym yn falch o ofalu am un o hanfodion bywyd.
Rydym yn angerddol dros sicrhau llesiant cenedlaethau yn ein rhanbarth, ac o fewn Cymru gyfan, yn y dyfodol, ac mae chwarae ein rhan wrth gefnogi'r nodau llesiant yn ganolog i'n strategaeth. Mae yna rywbeth i bawb yma mewn gwirionedd.
Os ydych chi eisiau gwneud mwy, oherwydd eich bod chi'n gofalu, rydyn ni eich eisiau yn ein tîm.
GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHOCH CHI
Yn Hafren Dyfrdwy rydym yn falch o gefnogi'r iaith Gymraeg, dyna pam rydym yn gyffrous i rannu cyfle i chi ymuno â'n tîm fel Cysylltydd Cymunedol Cymraeg.
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am weithio gyda'n cwsmeriaid a sefydliadau allanol wyneb yn wyneb i gyflawni ein strategaethau Cymuned a Bregusrwydd ar draws ein rhanbarth, ynghyd â darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol i dimau rheng flaen ar sut y gallwn gefnogi'r rhai mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
Eich cyfrifoldebau allweddol wrth ein cynorthwyo ar ein taith fydd:
- Trefnu, rheoli a chynnal digwyddiadau cymunedol allanol yn annibynnol neu mewn partneriaeth â sefydliadau allanol.
- Cefnogi ein timau sy'n delio â chwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau neu pan fyddant yn nodi cwsmeriaid a allai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.
- Nodi gwelliannau, a'u rhoi ar waith, i brofiad y cwsmer er mwyn cefnogi fforddiadwyedd a gyrru effeithlonrwydd o fewn y timau gweithredol.
- Tracio perfformiad cynlluniau a gwasanaethau cymorth i sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu cyflawni.
Byddwch wedi'ch lleoli yn ein Pencadlys Packsaddle yn Wrecsam ond byddwch allan yn ymweld â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid llawer o'r amser. Byddwch chi'n gweithio o fewn tîm bach ymroddedig a chan fod hon yn rôl mor hanfodol, rydym yn chwilio am rywun a all ymuno â ni 37 awr yr wythnos, yn gweithio ar draws ystod o amseroedd a allai gynnwys gyda'r nos a phenwythnosau.
SUT RYDYM NI'N GWEITHIO
Byddwch chi'n ymuno â diwylliant gofalgar sy'n cydweithio i gyflawni, tyfu a datblygu. Mae ein sgoriau ymgysylltu â chyflogeion ymhlith yr uchaf yn fyd-eang ym maes ynni a chyfleustodau. Dyna pam, rydym yn gwerthfawrogi eiliadau wyneb yn wyneb i gadw ein diwylliant yn fyw, ond hefyd yn deall yr hyblygrwydd y gall gweithio o gartref ei gynnig. Felly, fel arfer byddwch chi'n dod o hyd i ni yn y swyddfa, ond mae gweithio o gartref yn cael ei gefnogi, pan fydd ei angen arnoch chi.
BETH RYDYM NI'N CHWILIO AMDANO
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Hoffem i chi gael hyder wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ar draws y busnes ac yn allanol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ynghyd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd adweithiol dan bwysau – yn fewnol ac yn allanol gydag aelodau'r cyhoedd.
Bydd angen i chi aros yn ddiffwdan o dan bwysau a gallu gweithio'n annibynnol. Byddwch yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau o addysg i gyflogadwyedd. Gallech fod mewn ysgol yn cyflwyno i wahanol grwpiau oedran am yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n fflysio'r toiled, neu'n siarad â grwpiau cymunedol am gymorth gyda biliau dŵr a ffyrdd o arbed dŵr. Felly, mae hyder wrth gyflwyno yn bendant yn rhywbeth sydd ei angen arnom.
Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn well. Rydym yn chwilio am bobl sy'n bwrw iddi, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, a gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhw'n malio.
SUT BYDDWN NI YN EIN TRO YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH CHI
Nid swydd yn unig yw hon; mae'n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy'n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn i'ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch chi'n cyfrannu at yr amgylchedd a'r gymuned hefyd. Dyma rai o'n ffefrynnau ni:
- 23 diwrnod o wyliau + gwyliau banc (a'r gallu i brynu/gwerthu hyd at 5 diwrnod y flwyddyn)
- Cynllun bonws blynyddol (hyd at £1,500, sy'n amodol ar gymhwysedd)
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd (gan gynnwys blwyddyn i ffwrdd o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu â thâl llawn)
- Cynllun pensiwn blaenllaw – byddwn yn dyblu eich cyfraniad (hyd at 15% pan fyddwch yn cyfrannu 7.5%)
- Sharesave – y cyfle i brynu cyfranddaliadau Severn Trent plc am bris gostyngol
- Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol gyda'n Hacademi
- Cynllun cerbydau trydan a chynigion manwerthu
AMDANI
Rydym ar dân i glywed gennych chi! Oes gennych CV wedi'i ddiweddaru yn barod a neilltuo pum munud i wneud cais. Byddwn yn gwirio ceisiadau drwy'r adeg a dywedwch I chi y ganlyniad unwaith y bydd eich CV wedi'w adolygu, felly cadwch llygad ar eich ffôn a'ch negeseuon ebost.