Gweinyddiaeth a Chymorth Technegol
AWN YN SYTH ATI
Yn Hafren Dyfrdwy, rydym yn angerddol dros ddarparu dŵr glân a diogel a gofalu am yr amgylchedd ledled Cymru. Rydym yn fwy na chwmni dŵr, rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, arloesedd a chefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os ydych yn chwilio am rôl lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol a bod yn rhan o sefydliad sy’n cael ei yrru gan bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHYCH
Mae gennym gyfle cyffrous i weithio yn ein hadran Gweithrediadau Cwsmeriaid a Chynllunio a dod yn rhan o’n tîm Gweinyddiaeth a Chymorth Technegol. Fel rhan o’r rôl hon, byddwch yn bennaf yn darparu cymorth i’n tîm cynllunio, gan sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen i amserlennu gwaith yn gywir yn unol â’r gwaith sydd ei angen ar ein cwsmeriaid.
Byddwch yn ymwneud â nifer o weithgareddau dyddiol megis sicrhau bod taliadau cywir yn cael eu gwneud i’n cyflenwyr, cynnal adroddiadau, casglu data a chynnal gwiriadau ansawdd, felly bob dydd byddwch yn gallu ehangu eich set sgiliau fwyfwy.
Yn ogystal, fel rhan o’r tîm hwn, byddwch nid yn unig yn cael defnyddio eich sgiliau TG, ond byddwch hefyd yn gallu cymryd perchnogaeth o’ch gwaith er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni terfynau amser ac yn rheoli eich llwyth gwaith yn annibynnol. Rôl sy’n rhoi boddhad ym mhob ffordd. Mae’r rôl hon wedi’i lleoli ar ein safle yn Wrecsam, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Felly, os oes gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych, os ydych yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyflym a bod yn rhan o dîm, daliwch ati i ddarllen.
YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus iawn a rhagweithiol sydd â sgiliau gweinyddol cryf a llygad craff am fanylion. Mae profiad helaeth o ddefnyddio Excel yn hanfodol. Byddwch yn hyderus wrth weithio ar draws sawl blaenoriaeth, gan reoli mewnflychau a llifoedd gwaith yn effeithlon wrth sicrhau bod lefelau gwasanaeth yn cael eu cyflawni’n gyson. Mae profiad o weithio gyda data a systemau yn bwysig, gan y byddwch yn gyfrifol am gynnal cofnodion SAP cywir, dadansoddi gwybodaeth am berfformiad a chefnogi gweithgareddau gwella parhaus.
Byddwch hefyd yn gyfforddus yn meithrin perthnasoedd ag amrywiaeth o randdeiliaid, yn darparu cymorth rhagorol ar draws timau gweithredol ac yn sicrhau bod prosesau’n cael eu cwblhau’n gywir ac ar amser. Byddai profiad o SAP a SAP Ariba yn fanteisiol, er bod parodrwydd i ddysgu a datblygu gwybodaeth am systemau newydd yr un mor bwysig.
SUT Y BYDDWN YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH YN GYFNEWID
Nid swydd yn unig yw hon; mae’n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy’n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau i’ch helpu i gyrraedd eich potensial. Yn ogystal, byddwch yn cyfrannu at yr amgylchedd a’r gymuned hefyd. Dyma rai o’n ffefrynnau:
- Cyflog: £27,000 - £29,000
- 23 diwrnod o wyliau
- Cynllun bonws blynyddol (hyd at £1,500 y flwyddyn yn seiliedig ar berfformiad y cwmni)
- Cynllun pensiwn blaenllaw – byddwn yn dyblu eich cyfraniad (hyd at 8% pan fyddwch yn cyfrannu 4%)
- Sharesave – y cyfle i brynu cyfranddaliadau Severn Trent Plc am bris gostyngol
- Cynllun cerbydau trydan a chynigion manwerthu
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
AWN ATI
Allwn ni ddim aros i glywed gennych! Sicrhewch fod gennych CV wedi’i ddiweddaru yn barod a phum munud i wneud cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar ôl y dyddiad cau, felly cadwch lygad ar eich ffôn a’ch e-byst.