Dyddiad:  10 Medi 2026
Dyddiad Cau y Hysbyseb:  27 September 2026
Lleoliad:  Powys
Cwmni:  Hafren Dyfrdwy
Uned Busnes:  Trin D?r
Cyflog (£):  £35,508

Gweithredwr Dosbarthu

 

 

 

GADEWCH I NI FYND ATI'N SYTH  

 

 

 Yn Hafren Dyfrdwy, rydym yn angerddol am ddarparu dŵr glân a diogel a gofalu am yr amgylchedd ledled Cymru. Rydym yn fwy na chwmni dŵr – rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, arloesedd, ac i gefnogi'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os ydych chi'n chwilio am rôl lle gallwch chi gael effaith gwirioneddol a bod yn rhan o sefydliad sy'n cael ei yrru gan bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.  

 

 

 

 

GADEWCH I NI DDWEUD MWY WRTHOCH CHI 

 

 

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm i ddod yn Weithredwr Dosbarthu! 

 

 

Wrth weithio yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am weithrediad a chynnal a chadw rhwydwaith Dŵr Tanddaearol Hafren Dyfrdwy. Byddwch yn cael y dasg o gynnal a chadw ein Rhwydwaith Dŵr Glân ac unrhyw atgyweiriadau gofynnol i'n Prif Asedau Dŵr Glân, ac ar ben hynny byddwch yn cloddio priffyrdd cyhoeddus ar safleoedd Hafren Dyfrdwy a thiroedd preifat. 

 

 

Byddwch yn rhoi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf, gan ymateb i unrhyw faterion a godir gan ein cwsmeriaid neu aelodau'r cyhoedd a'u datrys. Bydd eich sgiliau rheoli rhanddeiliaid hefyd yn cael eu defnyddio i gysylltu ag adrannau eraill a'n partneriaid contract.  

 

 

O fewn y rôl hon, mae pob diwrnod yn wahanol, byddwch yn cael ymgymryd â'r ystod lawn o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw effeithiol. Gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; atgyweirio ac ailosod prif bibellau dŵr presennol ac asedau ategol, gosod a gweithio ar falfiau, all-lifoedd dŵr a mesuryddion.  

 

 

Fel ein Gweithredwr Dosbarthu newydd, nid yn unig y byddwch yn gweithredu peiriannau allan ar y safle, byddwch hefyd yn defnyddio technoleg gyfoes i helpu ein swyddfa gefn wrth gynnal a chadw data, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio a datblygu eich sgiliau yn gyffredinol! 

 

 

Yn y rôl hon bydd gofyn i chi fod ar alwad ar rota yn ôl yr angen (24/7, 365). Ar ben hynny, mae hon yn rôl awyr agored, gan weithio ym mhob tywydd, ac yn y nos pan fo angen, felly os nad oes ots gennych fod yn yr awyr agored ac os ydych yn caru torchi'ch llewys, gadewch i mi ddweud mwy wrthych. 

 

 

 

 

AM BETH RYDYM NI'N CHWILIO 

 

 

 

Mae angen Trwydded yrru lawn y Deyrnas Unedig gan y bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol i ddepos/canolfannau.  

 

Yn y rôl hon byddwch yn atebol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a bydd gennych ddyletswydd gofal i'ch cydweithwyr ac unrhyw un yr effeithir arnynt gan y gwaith a wnewch, er enghraifft y cyhoedd / staff ar y safle. Dyna pam mae dod â'ch profiad o weithio'n ddiogel a gweithredu'n gydymffurfiol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.  

 

 Rydyn ni wrth ein bodd yn gwasanaethu ein cwsmeriaid, felly mae'n allweddol eich bod chi hefyd, oherwydd yn y rôl hon byddwch chi'n wyneb Hafren Dyfrdwy pan fyddwch chi allan yn ein cymunedau.  

 

 

Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn well.Rydym yn chwilio am bobl sy'n cymryd rhan, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, ac sy'n gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhw'n malio.    

 

 

 

 

SUT BYDDWN NI YN EIN TRO YN EICH GWOBRWYO AC YN GOFALU AMDANOCH CHI 

 

 

Nid swydd yn unig yw hon; mae'n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy'n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn i'ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch chi'n cyfrannu at yr amgylchedd a'r gymuned hefyd. Dyma rai o'n ffefrynnau ni:  

 

  • 23 diwrnod o wyliau + gwyliau banc (a'r gallu i brynu/gwerthu hyd at 5 diwrnod y flwyddyn) 

  • Cynllun bonws blynyddol (hyd at £1,150 y flwyddyn yn seiliedig ar berfformiad y cwmni) 

  • Cynllun pensiwn blaenllaw – byddwn yn dyblu eich cyfraniad (hyd at 8% pan fyddwch yn cyfrannu 4%) 

  • Sharesave – y cyfle i brynu cyfranddaliadau Severn Trent plc am bris gostyngol 

  • Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol gyda'n ‘Hacademi’ 

  • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd 

  • Dau ddiwrnod gwirfoddoli â thâl y flwyddyn  

 

 

 

AMDANI   

 

 

Rydym ar dân i glywed gennych chi! Oes gennych CV wedi'i ddiweddaru yn barod a neilltuo pum munud i wneud cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar ôl y dyddiad cau, felly cadwch lygad ar eich ffôn a'ch negeseuon e-bost.