Rydym yn gyfrifol am gyflawni gwaith mewn pedwar maes o fewn ein strwythur – Darparu Data, Safonau, Peirianneg a Modelu. Mae hyn wedi'i rannu'n bum categori, gyda'n tîm brwdfrydig ac ymroddedig o reolwyr yn gyfrifol am bob un: Safonau Gwybodaeth Asedau, Modelu Rheoli Asedau, Darparu Data Asedau Dŵr, Darparu Data Asedau Gwastraff a Pheirianneg Data.
Rydym yn darparu'r data hollbwysig hwnnw i'r busnes ehangach er mwyn i chi allu gwneud y penderfyniadau strategol pwysig hynny – gan symud o ymateb i weithredu'n rhagweithiol, lleihau tarfu ar gwsmeriaid, a gwella'r cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw yn ogystal ag ansawdd ein dŵr.
Ein nod yw darparu gwasanaeth di-dor i'n rhanddeiliaid trwy gydweithio a rheoli prosiectau. Rydym am osod safonau a bod y gorau yn ein maes trwy symleiddio prosesau a galluogi hunanwasanaeth, gan sicrhau bod data ar gael mewn fformat hawdd ei gyrchu i chi allu ei ddefnyddio'n rhwydd a bod yn effeithlon yn eich tasgau. Rydym am fod yn agored i newid a chroesawu heriau er mwyn gweithio gyda'n gilydd fel tîm i gyflawni AMP7. Gwneir hyn oll wrth gydymffurfio â'n gofynion rheoleiddiol. Dim ond trwy feddu ar y sgiliau, y profiad a'r ysgogiad cywir y gellir cyflawni hyn.